Theatr
Tic Toc - cynhyrchiad llawn a thaith
Cynhyrchydd a chyfansoddydd Parama 2 2019
Ym mis Medi 2019 cychwynodd cynhyrchiad llawn o Tic Toc. Ym mis hydref a Thachwedd cyflawnwyd taith fer gychwynnol o dde Cymru
Cynhyrchydd a chyfansoddydd Parama 2 2019
Ym mis Medi 2019 cychwynodd cynhyrchiad llawn o Tic Toc. Ym mis hydref a Thachwedd cyflawnwyd taith fer gychwynnol o dde Cymru
Tic Toc - prosiect ymchwil a datblygu
Cynhyrchydd a chyfansoddydd Parama 2 2016 - 7
Yn 2016 ffurfiwyd Parama 2 cwmni newydd i hyrwyddo ysgrifennu a theatr gan fenywod hŷn. Ar ôl cynnal cyrsiau ysgrifennu, bu'r cwmni llwyddianus yn ei gais am arian Cyngor Celfyddydau a Chronfa Treftadaeth y Loteri er mwyn cynnal prosiect ymchwil a datblygu - Tic Toc - y dechreuad. Yn ogystal derbyniwyd arian gan Laura Ashley Foundation.
Theatre Versus Oppression: Pipeline
Cyfarwyddo TVO 2010
Rhan o brosiect datblygu sgriptiau Theatr Versus Oppression yn Chapter.
Trafaelu ar y Tren Glas Cyfarwyddo Rhosys Cochion 2008 Hwn oedd cynhyrchiad diwethaf Rhosys Cochion a'r olaf yn nhrioleg Ede Hud gan Sharon Morgan. Bu'r sioe un fenyw'n sy'n ystyried tyfu'n hen a chyrraedd diwedd eich bywyd, yn teithio o gwmpas Cymru ac i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch gyda nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. |
|
|
Cwm Gwaun Garw Cyfarwyddo Theatr Bara Caws 2007 Addasiad Sharon Morgan o'r Laramie Project. Cast yn cynnwys Maria Pride, Delyth Wyn, Ifan Huw Dafydd, Jonathan Nefydd, Geraint Pickard a Rhodri Evan. |
Holl Liwie'r Enfys
Cyfarwyddo Rhosys Cochion 2006
Yr ail yn nhrioleg Ede Hud, cafodd Holl Liwie'r Enfys grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i deithio i Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch ac o gwmpas Cymru yn hâf a hydref 2006.
ruth is stranger 2:Spring Forward Fall Back
Cyfarwyddo ruth is stranger than richard 2005
Drama fer gan Tracy Harris. Rhan o ŵyl ddrama ruth is stranger 2 yn Chapter. Gyda John Norton a Sarah Dodd
Drama fer gan Tracy Harris. Rhan o ŵyl ddrama ruth is stranger 2 yn Chapter. Gyda John Norton a Sarah Dodd
ruth is stranger 1:Bubble
Cyfarwyddo ruth is stranger than richard 2004
Drama fer gan Angharad Elen. Rhan o ŵyl ddrama ruth is stranger 1 yn Chapter. Gyda Alistair Sill ac Eirlys Bellin.
Drama fer gan Angharad Elen. Rhan o ŵyl ddrama ruth is stranger 1 yn Chapter. Gyda Alistair Sill ac Eirlys Bellin.
Shinani'n Siarad
Cyfarwyddo Rhosys Cochion 2004
Addasiad Sharon Morgan a chynhyrchiad hynod lwyddianus o'r Vagina Monologues. Ar daith yng ngwanwyn 2004, fe atgyfodwyd ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd a'r Cylch. Cast yn cynnywys Maria Pride, Sharon Morgan a Delyth Wyn.
Ennillydd Gwobr Cynhyrchiad Iaith Gymraeg Gorau Gwêfan y Theatr yng Nghymru 2005

Ede Hud/Magic Threads
Cyfarwyddo Rhosys Cochion 1997, 2002, 2004
Drama un fenyw gan yr actor Sharon Morgan yn olrhain hanes menywod ei theulu. Cynhyrchiad cyntaf Rhosys Cochion gafodd ei atgyfodi ar gyfer Gŵyl Ledled Chapter Caerdydd 2002 a'i berfformio yn Saesneg yn Wales Week - dathliadau Gŵyl Dewi Efrog Newydd yn 2004.

Hanes theatrig......
Ar ôl bwrw prentisiaeth yng Nghwmni Theatr Cymru, 'roedd Catrin yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws yn 1977 gyda Iola Gregory, Mei Jones, Valmai Jones a Dyfan Roberts. Yn yr 80au 'roedd hi'n aelod o fwrdd artistig Cwmni Hwyl a Fflag a bu'n aelod o Rhosys Cochion rhwng 1997 a 2010.