cynhyrchu, cyfarwyddo, cerddoriaeth
Mae gan Catrin Edwards brofiad helaeth fel cynhyrchydd, cyfarwyddydd a chyfansoddwraig ym myd theatr a theledu. 'Roedd hi'n un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws a fel cerddor y cwmni bu'n gyfrifol am ganeuon a cherddoriaeth rhai o'r sioeau cynnar. Bu'n gweithio ar ochr gynhyrchu drama teledu a chyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni drama a dogfen ers yr wythdegau. Ers dechrau'r 90au, mae Catrin wedi cynhyrchu a chyfarwyddo nifer helaeth o raglenni dogfen tra'n dal i gyfarwyddo'n achlysurol yn y theatr.